Mae’r Bwrdd Cynghori Annibynnol yn darparu trosolwg a chyngor ar gyfer y Bwrdd Rheoli. Mae’n cyfarfod bob chwe mis ac yn cynnwys cynrychiolwr o EPSRC, wedi’i benodi gan EPSRC, ac o leiaf tri academydd annibynnol o sefydliadau y tu allan i’r pedair prifysgol partner.
Bydd y Bwrdd Cynghori Annibynnol yn derbyn adroddiadau am bob agwedd ar weithrediad y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol gan Gadeiryddion y Bwrdd Rheoli a’r Bwrdd Addysg, a bydd gan y Bwrdd fynediad at yr holl waith papur monitro.
Yr Athro Simon Bending
Cadeirydd
Prifysgol Caerfaddon
Yr Athro Ana M. Sanchez
Prifysgol Warwick
Yr Athro Judy Rorison
Prifysgol Bryste
Yr Athro Robert Martin
Prifysgol Ystrad Clud
Alex Oliver
EPSRC