Fe’ch addysgir trwy raglen MSc ym Mhrifysgol Caerdydd, naill ai Ffiseg neu Beirianneg, a lled-ddargludyddion cyfansawdd fydd y brif elfen. At hynny, bydd elfen ymarferol sylweddol gan gynnwys hyfforddiant perthnasol ynghylch meddalwedd ac ystafelloedd glân.
Cewch chi gyfle i fynd i gynhadledd am faterion lled-ddargludyddion yn y deyrnas hon hefyd, yn ogystal â gweithio gyda mentor i baratoi cynllun datblygu personol a ddiweddarir yn ystod y cwrs.
Prosiectau PhD
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn datblygu eich Prosiect PhD drwy broses iteraidd. Mae prosiectau PhD yn cael eu cynnig gan oruchwylwyr CDT yn y pedair prifysgol ac yn cael eu darparu mewn catalog i fyfyrwyr. Mae myfyrwyr yn cyflwyno eu prosiectau yn nhrefn eu dewis, yn unol â’r canllawiau a ddarperir yn flynyddol. Mae myfyrwyr yn cwrdd â goruchwylwyr sy’n cynnig y prosiectau, ynghyd â’r ail oruchwyliwr a phartner diwydiannol lle bo hynny’n berthnasol. Mae’r goruchwyliwr yn darparu adborth i’r Bwrdd Rheoli, sy’n dyrannu’r prosiectau gan roi ystyriaeth ddyledus i ddewisiadau myfyrwyr a goruchwylwyr, y defnydd o gyllid diwydiannol a chydbwysedd y dyfarniadau rhwng partneriaid y Brifysgol. Dros oes y CDT, bydd o leiaf 10 myfyriwr wedi’u lleoli ym Manceinion, Sheffield ac UCL ar gyfer eu prosiect PhD, a bydd o leiaf 20 wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Mae pob un o’r prifysgolion wedi darparu dyfarniadau ychwanegol i dalu am y gwahaniaeth rhwng ffioedd myfyrwyr Cartref a Rhyngwladol yn ôl eu derbyniadau disgwyliedig.
Gweithgareddau
Byddwch chi’n cymryd rhan yng ngweithgareddau’r garfan megis cyfres o ddarlithoedd gan siaradwyr gwadd, Clwb y Cyfnodolion a hyfforddiant ynghylch rheoli prosiectau, ymchwil ac arloesi moesegol, ymgysylltu ac effeithiau.
Siaradwyr gwadd
Bydd rhaglen siaradwyr gwadd o brifysgolion a’r byd diwydiannol yn ymwneud â phynciau penodol megis gweithgynhyrchu ardaloedd mawr, prosesu plasma yn anwythol, epitacsi (metelau – dyddodi anwedd cemegau naturiol ac epitacsi pelydrau moleciwlaidd), technegau RF, lithograffeg, profi hyd defnyddio dyfeisiau ac offer llunio meddalwedd (e.e. SYNOPSIS a COMSOL).
Gwaith allanol
Byddwn ni’n trafod gweithgareddau estyn braich, eiddo deallusol, llunio cynigion ariannu, rheoli prosiectau, cael effaith trwy ymchwil a hynt creu nwyddau o’r labordy i’r farchnad.
Clwb y Cyfnodolion
Yn eich tro, byddwch chi’n crynhoi erthyglau diddorol, cryf eu cynnwys technegol, dros weddill y garfan fel y gallwch chi feithrin medrau pwysig, sef beirniadu darnau sydd wedi’u cyhoeddi yn adeiladol a llunio cyhoeddiadau academaidd o safon.
Oherwydd COVID-19, rydym wedi cael dull cyflwyno cymysg ar gyfer derbyn 2020. Cyflwynwyd modiwlau labordy yn yr hydref a’r gwanwyn yn bersonol mewn grwpiau bach gyda rhagofalon COVID-19. Mae gweddill y modiwlau, y seminarau CDT a’r clwb cyfnodolion wedi’u cynnal ar-lein. Fe wnaethom gynnal sawl cyfarfod CDT wyneb yn wyneb, rhwng cyfnodau clo, ac roedd myfyrwyr yn gallu defnyddio gofod swyddfa myfyrwyr CDT ar sail rota, gan ddilyn canllawiau rhag COVID. Darperir diweddariadau ar gyfer sesiwn 2021-22 wrth iddynt ddod ar gael.