Ymunodd ein hail garfan o 16 myfyriwr â ni ym mis Medi 2020.
Alex Baddeley
Helô, Alex ydw i ac rwy’n dod o Henffordd, dinas fach yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr.
Cyn dod i’r brifysgol, roeddwn yn gweithio mewn cwmni awyrofod, lle roeddwn yn rhan o’r adrannau dylunio antenau / amleddau radio am bum mlynedd.
Ar ôl gadael y diwydiant, rwyf wedi mynd ymlaen i astudio BEng mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ganolbwyntio ar yr ochr amleddau radio a chyfathrebu.
Yn fy mhrosiect trydedd flwyddyn, gweithiais ar ddatblygu meddalwedd fesur a ddyluniwyd i gymhwyso cyn-ystumiad digidol i fwyaduron pŵer amleddau radio er mwyn dangos bod modd llinelloli mwyhadur pŵer sydd wedi’i ddylunio.
Mae fy niddordebau’n cynnwys treulio amser gyda ffrindiau, mynd i’r gampfa, teithio a darganfod lleoedd newydd.
Richard Brown
Helô, fy enw i yw Richard ac rwy’n dod o Southampton yn wreiddiol. Des i Gaerdydd tair blynedd yn ôl i wneud Gradd Baglor mewn Ffiseg, heb wybod yn iawn beth oedd lled-ddargludydd cyfansawdd ond yn meddwl ei fod yn swnio’n cŵl iawn gydag effaith bwysig ar y byd go iawn.
Yn ystod y drydedd flwyddyn, roeddwn yn gallu cwblhau prosiect yn seiliedig o gwmpas lled-ddargludyddion cyfansawdd lle gwnes i efelychu dyfais wedi’i seilio ar arsenid galiwm gyda’r nod o ganfod canserau’r croen gan ddefnyddio techneg a geir mewn delweddu retina o’r enw tomograffeg cydlyniant optegol.
Y tu allan i’r brifysgol, rwy’n treulio’r rhan fwyaf o’m hamser yn chwarae gitâr mewn bandiau amrywiol, sydd wedi rhoi’r cyfle imi berfformio ledled y DU, recordio dau EP gwreiddiol, ac ymddangos ar deledu a radio cenedlaethol.
Arthur Collier
Fy enw i yw Arthur ac rwy’n dod o bentref bach yn ne Lloegr. Wrth dyfu i fyny, roedd gen i ddiddordeb anarferol o frwd mewn mathemateg, ffiseg a thechnoleg. Penderfynais y byddai gradd mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig yn clymu fy niddordebau’n daclus. Heb ddim o gwmpas heblaw am gaeau a gwartheg, mentrais i Brifysgol Manceinion, lle gwnes i ddarganfod bod adeiladau’n fwy na dau lawr yn rheolaidd.
Ar gyfer fy mhrosiect trydedd flwyddyn, ymchwiliais i nanogeneraduron tribodrydanol, sydd â chymwysiadau posibl yn pweru electroneg anghysbell ac yn harneisio ynni’r llanw. Roedd angen amrywiaeth o brosesau cynhyrchu nanoadeileddau silicon yn y maes gweithgynhyrchu, gan gynnwys lithograffi UV ac ysgythriad plasma. Yn ystod fy mhrosiect MEng, gweithiais gyda thri myfyriwr arall ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb a oedd yn ymchwilio i ddefnydd posibl synwyryddion effaith Hall mewn pantiau cwantwm er mwyn profi ceryntau trolif pylsedig (QWHE-PECT). Dylunion ni sganiwr i’w ddal yn eich llaw i ddelweddu cyrydu pibellau heb dynnu cladin, gan osod y sylfeini ar gyfer systemau QWHE-PECT y dyfodol.
Calum Dear
Fy enw i yw Calum. Cefais fy magu ym Mryste ac rwyf wedi byw yng Nghaerdydd am y pedair blynedd diwethaf. Enillais BSc mewn Ffiseg o Brifysgol Caerdydd yn 2020. Rwyf yn Aelod Cysylltiol o’r Sefydliad Ffiseg gyda diddordebau darllen mewn ffotoneg.
Roedd fy niddordeb prosiect BSc blwyddyn olaf mewn defnyddio meddalwedd efelychu ffotonig yn y diwydiant i ddylunio ac optimeiddio cylched ymyradur ar arsenid galiwm (GaAs). Nod yr ymyradur oedd disodli technegau tomograffeg cydlyniant optegol cyfredol, sy’n cynnwys technoleg feddygol fawr a drud ar hyn o bryd. Gan ddefnyddio golau laser pylsedig 1300nm, datblygwyd algorithm i bennu gwybodaeth ofodol o’r gylched optegol yn seiliedig ar y patrwm ymyriant trwy ddiffreithio’r signal yn sbectrol.Heblaw am y byd academaidd yng Nghaerdydd, rwyf wedi cael y fraint o weithio ochr yn ochr â phobl anhygoel ym maes lletygarwch ac roeddwn yn rheolwr mewn bar coctel prysur yng nghanol Caerdydd. Rwyf wedi sgïo ers cyhyd ag y gallaf gofio, a byddwch chi’n cael trafferth fy nghadw i ffwrdd o’r eira.
Abi Enderson
Helô, Abi ydw i. Cefais fy magu yn Nyfnaint, lle gwnes i gwblhau cymwysterau Safon Uwch mewn Mathemateg, Ffiseg a Chemeg, ac es ymlaen i astudio fy BSc mewn Ffiseg gyda Seryddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Tua diwedd fy ngradd, roeddwn yn arbenigo mewn ffiseg mater cyddwysedig ac, yn benodol, lled-ddargludyddion a’u cymwysiadau.
Ar gyfer fy mhrosiect blwyddyn olaf, creais efelychiad i fodelu priodweddau canllawiau tonnau lled-ddargludyddion cyfansawdd yn seiliedig ar eu dimensiynau a’u indecsau plygiant. Y tu allan i’m hastudiaethau, rwy’n mwynhau rhedeg, heicio ac ymarfer yoga.
Daniel Johnson
Helô, Dan ydw i ac rwy’n dod o Essex yn wreiddiol. Gwnes i gwblhau BSc mewn Ffiseg yn Swydd Hertford ac MSc mewn Gwyddoniaeth Deunyddiau Uwch yng Ngholeg Prifysgol Llundain (yn dilyn amser fel athro gwyddoniaeth a dilyn cwrs TAR yn Rhydychen).
Fy mhrosiect MSc oedd nodweddu ymgeisydd ocsid dargludol tryloyw crisial sengl newydd gan ddefnyddio PXRD, XPS a mesuriadau cludo.
Rwyf wir yn mwynhau bod yn ymarferol a threulio amser yn y labordy ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddatblygu fy sgiliau ymhellach yn rhaglen y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol.
Y tu allan i’m hymchwil a’m hastudiaethau, rwy’n mwynhau chwarae snwcer, gweithio ar fy mhrosiectau electronig fy hun, ac unrhyw beth yn yr awyr agored gyda ffrindiau.
James Meiklejohn
Helô, James ydw i ac rwy’n dod o Gaeredin yn wreiddiol.
Ar gyfer fy ngradd israddedig, astudiais Wyddorau Naturiol yng Nghaergrawnt, gan arbenigo mewn Astroffiseg yn ystod fy mlwyddyn olaf. Ar ôl graddio, symudais i Lundain i weithio fel peiriannydd meddalwedd i fusnes newydd yn dylunio synwyryddion diwifr.
Rwy’n hoffi adeiladu pethau, rhedeg a seiclo, ac unrhyw beth i’w wneud â phibgodau.
Khaya Mtunzi
Helô, Khaya ydw i ac rwy’n dod o Surrey yn wreiddiol. Gwnes i gwblhau fy ngradd israddedig mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe ac MSc mewn Astroffiseg Data-ddwys ym Mhrifysgol Caerdydd y flwyddyn ganlynol. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i ennill llawer o brofiad mewn seryddiaeth a rhaglennu cyfrifiadurol o’r ddwy.
Roedd fy mhrosiect MSc yn cynnwys ymchwilio i adeiledd crisialaidd wurtzite hecsagonol ffilm denau nitrid galiwm gan ddefnyddio trawsffurf gyflym Fourier a chydberthyn morffoleg ei arwyneb i’w adeiledd crisialaidd. Gobeithiaf ehangu fy nealltwriaeth o ddeunyddiau lled-ddargludyddion ymhellach at ddibenion y gofod. Yn ystod fy amser rhydd, rwy’n mwynhau chwarae’r piano a’r gitâr a cheisio dysgu ieithoedd newydd.
Diyar Othman
Helô, fy enw i yw Diyar ac rwy’n dod o Gyprus yn wreiddiol. Gwnes i raddio o Brifysgol Manceinion yn 2020 gyda BSc mewn Ffiseg.
Cyn dechrau’r drydedd flwyddyn, gwnes i gwblhau interniaeth dros yr haf yng Nghanolfan Ddarganfod Jodrell Bank, lle cefais rôl sy’n wynebu’r cyhoedd yn bennaf. Roedd prosiect fy nhrydedd flwyddyn ar ddyfodol ynni, ac roeddwn yn canolbwyntio ar y posibilrwydd o fyd sy’n adnewyddadwy 100% erbyn 2050. Cynhaliais astudiaeth achos yng Ngogledd Cyprus ac roeddwn yn canolbwyntio ar ynni’r haul ac ynni gwynt yn bennaf.
Y tu allan i ffiseg, rwy’n mwynhau gwneud pob math o chwaraeon, gwrando ar gerddoriaeth a’i chwarae, a darllen.
Iwan Pullen
Helô, Iwan ydw i. Rwy’n dod o Ogledd Cymru a gwnes i raddio o Brifysgol Caerdydd gyda BSc mewn Ffiseg gyda Seryddiaeth. Er y dewisais y llwybr seryddiaeth ar gyfer fy ngradd israddedig, cefais y cyfle i astudio ffiseg mater cyddwysedig hefyd. Trwy hyn, datblygais fy niddordeb mewn lled-ddargludyddion a’u cymwysiadau.
Roedd fy mhrosiect blwyddyn olaf yn cynnwys ysgrifennu rhaglen mewn Python i ffitio cromliniau dwysedd egni sbectrol i uwchnofa ar fannau gwahanol ar draws cyfnod arsylwi o ddwy flynedd. Gan drin yr uwchnofa fel corff du sy’n allyrru, gallwn fesur y tymheredd a chylchdroeon radiws a gwneud amcangyfrifon o gyfanswm yr egni a ryddhawyd yn y ffrwydrad.
Y tu allan i ffiseg, rwy’n aelod o Glwb Triathlon Prifysgol Caerdydd ac rwy’n treulio’r rhan fwyaf o’m hamser mewn pwll nofio, ar fy meic, neu’n cyfansoddi, chwarae neu wrando ar gerddoriaeth.
Ben Salmond
Shwmae, fy enw i yw Ben ac rwy’n dod o Garnoustie yn yr Alban. Yn ddiweddar, rwyf wedi astudio ym Mhrifysgol Glasgow ar gyfer MSc mewn Nanowyddoniaeth a Nanodechnoleg. Cyn hyn, gwnes i gwblhau fy ngradd israddedig ym Mhrifysgol Ystrad Clud mewn Ffiseg.
Roedd fy mhrosiect meistr yn canolbwyntio ar ddatblygu model cylched cyfatebol ar gyfer transistorau effaith maes gan ddefnyddio deunydd lled-ddargludyddion sy’n dod i’r amlwg, ocsid galiwm. Yn ystod fy ngradd israddedig, roedd fy mhrosiect blwyddyn olaf yn ymchwilio i sefydlogrwydd lliw deuodau sy’n allyrru golau. Ymchwiliodd y gwaith hwn i effaith newid y tymheredd yn y dyfeisiau yn ogystal ag effaith y maes trydanol mewnol mewn deuodau sy’n allyrru golau sy’n seiliedig ar nitrid galiwm.
Y tu allan i’r byd academaidd, rwy’n mwynhau chwarae golff, beicio ffordd a choginio.
Wesley Sampson
Helô, Wesley ydw i. Rwy’n dod o Ringwood yn wreiddiol, tafliad carreg o Bournemouth. Gwnes i raddio gyda BEng o Brifysgol Caerdydd mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig ac rwyf ar fin cwblhau MSc ym Mhrifysgol Caerdydd mewn Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.
Testun fy mhrosiect israddedig oedd defnyddio cydrannau sy’n gallu cael eu rhaglennu’n ddigidol i ddatblygu hidlyddion y gellir eu cyweirio.
Yn ystod fy ngradd meistr, roedd fy mhrosiect yn cynnwys datblygu synwyryddion deuodau gan ddefnyddio GaN ar ddeuodau silicon a oedd wedi’u hadeiladu’n fewnol a chynhyrchu modelau efelychu sy’n cynrychioli’r deuodau hyn dros ystod amledd mawr a phwyntiau bias gwahanol.
Chris Walsh
Helô, Chris ydw i, ac astudiais MEng Peirianneg Electronig ym Mhrifysgol Manceinion.
Ymchwiliais i brosesau seiliedig ar hydoddiannau i weithgynhyrchu transistorau ffilm denau ar gyfer fy mhrosiect trydedd flwyddyn unigol. Roedd hyn yn cynnwys gweithgynhyrchu transistorau mewn ystafell lân, profi’r dyfeisiau, ac wedyn dadansoddi’r data i benderfynu eu nodweddion gan ddefnyddio LabVIEW a MATLAB.
Nod fy mhrosiect tîm MEng oedd datblygu ateb Diwydiant 4.0 ar gyfer gweithdy mecanyddol y brifysgol. Roedd hyn yn cynnwys datblygu meddalwedd fewnblanedig a chyfrifiadura cwmwl i echdynnu a thrin data peiriannau er mwyn dadansoddi tueddiadau dros amser.